2 Kings 24

Babilon yn ymosod ar Jwda

(2 Cronicl 36:6-8)

1Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar,
24:1 Nebwchadnesar Roedd yn teyrnasu ar Babilon o 605 i 562 CC
brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd
24:1 am dair blynedd 604–601 CC mae'n debyg
. Ond yna dyma fe'n gwrthryfela.
2Dyma'r Arglwydd yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw'n dinistrio'r wlad fel roedd yr Arglwydd wedi rhybuddio trwy ei weision y proffwydi. 3Does dim amheuaeth mai'r Arglwydd wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o'i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi eu gwneud. 4Roedd wedi lladd pobl ddiniwed – roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr Arglwydd ddim am faddau hynny.

5Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 6Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. 7Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o'i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro'r holl diroedd roedd e'n arfer eu rheoli, o Wadi'r Aifft i Afon Ewffrates.

Jehoiachin, brenin Jwda c

(2 Cronicl 36:9-10)

8Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem). 9Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd fel ei dad o'i flaen.

10Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae
24:10 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
ar Jerwsalem.
11Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. 12A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
24:12 wyth mlynedd Digwyddodd hyn i gyd yn 597 CC

13Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr Arglwydd wedi rhybuddio
24:13 rhybuddio gw. 20:16-18.
.
14A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.

15Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd. 16Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd. 17Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.

Sedeceia, brenin Jwda

(2 Cronicl 36:11-12; Jeremeia 52:1-3a)

18Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin.
24:18 benodi'n frenin Gan Nebwchadnesar (gw. Jeremeia 37:1).
Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna
24:18 Jeremeia o Libna Nid y proffwyd (gw. Jeremeia 1:1).
).
19Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn union fel y brenin Jehoiacim. 20Felly gyrrodd yr Arglwydd bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

Copyright information for CYM